Ffion Wyn Roberts
Mae’r rheithgor yn achos llofruddiaeth Ffion Wyn Roberts o Borthmadog wedi cael mynd adref am y penwythnos ar ôl methu â dod i benderfyniad.
Fe fyddan nhw’n gorfod dod yn ôl i’r llys erbyn 10 fore Llun i ailddechrau’u trafodaethau.
Mae Iestyn Davies, gweithiwr ffatri wlân yn y dref, yn gwadu iddo lofruddio’r ferch 22 oed flwyddyn yn ôl.
Yn yr achos llys yng Nghaernarfon sydd wedi mynd ymlaen ers chwe wythnos, cafodd y rheithgor eu gyrru allan i ddechrau brynhawn dydd Mawrth.
Ar ôl methu dod i benderfyniad unfrydol wedi 17 awr o drafodaethau, dywedodd y barnwr fore ddoe y byddai’n derbyn dedfryd fwyafrifol petai o leiaf 10 o’r 12 yn cyrraedd yr un farn.
Pan gawson nhw eu galw’n ôl ychydig wedi 4 brynhawn ddoe, fodd bynnag, dywedodd eu llefarydd nad oedd y mwyafrif gofynnol wedi dod i gytundeb.
Cafwyd hyd i gorff Ffion Wyn Roberts ei ddarganfod mewn ffos heb fod ymhell o’i chartref ar 10 Ebrill y llynedd.