Mae Rhestr Hir gwobr Llyfr y Flwyddyn 2011 wedi ei chyhoeddi heno.
Mae hunangofiant yr academydd a’r newyddiadurwr Ned Thomas, Bydoedd: Cofiant Cyfnod, wed’i dewis i fod ar y Rhestr Hir, a chyfrol ffeithiol Elin Haf, Ar Fôr Tymhestlog, sy’n adrodd hanes yr awdur allan ar y môr pan oedd yn rhwyfo ar draws dau gefnfor.
Mae’r darlledwr Hywel Gwynfryn hefyd ymhlith yr awduron llwyddiannus eleni gyda’i gofiant i’r actor ffilm a llwyfan byd-enwog o Ynys Môn, Hugh Griffith.
Ymysg y nofelau ar y rhestr mae cyfrol fuddugol Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2010, sef Gwenddydd gan Jerry Hunter, a Creigiau Aberdaron gan Gareth F. Williams.
Yn ogystal a hynny mae nofel ddoniol Angharad Price, Caersaint, a nofel dywyll Dewi Prysor, Lladd Duw.
Un casgliad o gerddi sydd wedi cyrraedd y rhestr hir eleni, sef Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet gan Gwyn Thomas.
Casgliad amrywiol o ysgrifau am bob pwnc dan haul sydd gan William Owen yn ei gyfrol Cân yr Alarch, a llwyddodd Tony Bianchi i gyrraedd y rhestr gyda’i gasgliad o straeon byrion, Cyffesion Geordie Oddi Cartref, sydd ag iddynt dinc hunangofiannol.
Gwobrwyir £10,000 yr un i awduron y llyfrau gorau a gyhoeddwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn blwyddyn galendr.
Bydd cyfle hefyd i ddarllenwyr cyffredin bleidleisio am eu ffefryn ar y rhestr eto eleni. Bydd pôl piniwn Gwobr Barn y Bobol Golwg 360 yn ymddangos ar y dudalen Gelfyddydau ddydd Iau.
Cymru: y 100 lle i’w gweld cyn marw gan John Davies enillodd y brif wobr y llynedd, ac Fel Aderyn gan Manon Steffan Ros enillodd Gwobr Barn y Bobl Golwg 360.
Barn y beirniaid
Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni yw Dr Simon Brooks, yr Athro Gerwyn Wiliams a Kate Crockett.
“Nodweddir Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2011 gan amrywiaeth a chyfoeth,” meddai Gerwyn Wiliams, a ennillodd y wobr yn 1997 am ei lyfr Tir Neb.
“Amlygir yr amrywiaeth gan ystod o genres: pedair nofel gwbl wahanol i’w gilydd, dau lyfr hunangofiannol ffres, cyfrol bob un o storïau byrion ac ysgrifau, cofiant anarferol a chasgliad bywiog o gerddi.
“Amlygir y cyfoeth gan y deunydd sy’n amrywio o’r personol i’r epig ac o’r lleol i’r rhyngwladol. Ond yr hyn sy’n gyffredin i’r deg teitl yw rheolaeth y gwahanol awduron ar eu mathau penodol o ysgrifennu. Dyma ddatganiad clir o hyder mewn ysgrifennu Cymraeg cyfoes!”
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, fod gwobr Llyfr y Flwyddyn “yn aml yn achosi cynnwrf”.
“Mae ei ddetholiad eclectig, cyffrous ac egnïol yn dangos dawn ysgrifennu gorau Cymru. Nid yw’r dewis eleni yn eithriad,” meddai.
Bydd y Rhestr Fer o dair cyfrol Cymraeg a thair cyfrol Saesneg yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau 19 Mai 2011 mewn dau ddigwyddiad arbennig a gynhelir ar yr un pryd yn Galeri Caernarfon, a Bar Espresso John Lewis, Caerdydd.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a gynhelir nos Iau 7 Gorffennaf 2011 yn Cineworld, Caerdydd.
Y Rhestr Hir Gymraeg yn llawn yw:
Tony Bianchi, Cyffesion Geordie Oddi Cartref (Gwasg Gomer)
Dyma gasgliad o straeon byrion gyda thinc hunangofiannol gan gyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen. Gyda digon o hiwmor yn gymysg ag arswyd, mae’r awdur yn ein cyflwyno i’w deulu a’i ffrindiau, ond hefyd i’r hyn sy’n celu yn ei isymwybod ac yn peri gofid iddo.
Elin Haf, Ar Fôr Tymhestlog (Gwasg Carreg Gwalch)
Beth ysbrydolodd merch ffarm o ardal y Bala, heb ddim profiad o fod allan ar y môr, i rwyfo ar draws dau gefnfor? Dilyn breuddwyd wnaeth Elin Haf, breuddwyd oedd yn bygwth troi’n hunllef. Hanes merch yn wynebu moroedd tymhestlog a geir yma, ac mae ei bywyd personol yr un mor stormus. Ond yn y ddau achos, llwydda i gyrraedd y lan.
Hywel Gwynfryn, Hugh Griffith (Gwasg Gomer)
Cofiant i’r actor ffilm a llwyfan byd-enwog Hugh Griffith, o Farian-glas, Ynys Môn. Gan ddefnyddio llythyrau, adolygiadau, dyddiaduron a lluniau unigryw o archif personol y teulu fe’n tywysir trwy gyfrwng geiriau a llais yr actor ei hun o Angorfa, Marian-glas i lwyfannau Stratford, y West End ac i setiau ffilm Hollywood lle cipiodd Oscar.
Jerry Hunter, Gwenddydd (Gwasg Gwynedd)
Ceir yn y nofel bwerus hon stori ddirdynnol am berthynas milwr o frawd a’i nyrs o chwaer, ac erchylltra’u profiadau yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd. O gefn gwlad Cymru i ysbyty milwrol yn Lloegr a maes y frwydr ar y cyfandir, gwelwn effeithiau rhyfel ar unigolyn, teulu a chymdeithas. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent, 2010.
William Owen, Cân yr Alarch (Y Lolfa)
Casgliad amrywiol o ysgrifau am bob pwnc dan haul, o lenyddiaeth, drama, criced, ffilmiau, teithio a llawer mwy, gan yr awdur profiadol o Borth-y-gest, William Owen. Boed ei fater yn ddwys neu’n ddoniol, yn ddifrif neu’n wamal, mae’r cyfan wedi’i fynegi mewn Cymraeg rhywiog sy’n gyforiog o idiomau lliwgar ei fro enedigol ym Môn.
Angharad Price, Caersaint (Y Lolfa)
Nofel hirddisgwyliedig yr awdures dalentog, a enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2002 gyda’r clasur O! Tyn y Gorchudd. Nofel yw hon am Jaman Jones sy’n dychwelyd i’w dref enedigol ar ôl etifeddu tŷ ei fodryb, ac mae’n cynnig sylwebaeth ddeifiol ar fywyd tref Gymreig ar ddechrau’r 21ain ganrif.
Dewi Prysor, Lladd Duw (Y Lolfa)
Dyma nofel gyntaf Dewi Prysor ers y drioleg lwyddiannus, Madarch, Brithyll a Crawia. Mae Lladd Duw yn nofel swmpus, wedi’i lleoli yn Llundain a thref glan y môr ffuglennol. Mae’n ymdrin â chwalfa gwareiddiad o safbwynt y werin bobl. Nofel ddwys-dywyll ond fel sy’n nodweddiadol o’r awdur, mae digon o hiwmor ynddi hefyd.
Gwyn Thomas, Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet (Cyhoeddiadau Barddas)
Yn y casgliad hwn o gerddi gan Gwyn Thomas, ac yntau bellach yn daid, mae’r bardd yn ymwybodol iawn o ‘olwyn bodolaeth’. Thema amlwg yn y gyfrol hon yw treigl amser. Yng nghanol ‘murmuron tragwyddoldeb’ mae yna sŵn a chwerthin plant. Ac yng nghanol y dwys, y doniol a’r direidus, fe geir dychan crafog am ein byd cyfoes, ein ‘cwningod tjioclet’, a’n hen, hen ddrygioni.
Ned Thomas, Bydoedd: Cofiant Cyfnod (Y Lolfa)
Dyma hunangofiant academydd uchel ei barch, newyddiadurwr ac awdur. Ef oedd sylfaenydd papur newydd Y Byd – papur na ddaeth i fodolaeth – a cheir y stori honno’n llawn ganddo. Treuliodd rhan o’i blentyndod yn Yr Almaen a bu’n gweithio ledled Ewrop cyn symud i Gymru. Mae’n gyfrol a fydd yn corddi’r dyfroedd ac yn codi cwestiynau gwleidyddol a diwylliannol pwysig.
Gareth F. Williams, Creigiau Aberdaron (Gwasg Gwynedd)
Nofel feistrolgar, gynnil ar gyfer oedolion, wedi’i lleoli ym mhentref hudolus Aberdaron ym mhen draw Llŷn. Ond mae’r môr a’r creigiau’n gallu bod yn beryglus a bygythiol, felly hefyd y tensiwn rhwng rhai o deuluoedd y pentref â’i gilydd.
Y Rhestr Hir Saesneg
Yr awduron sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestr hir Saesneg yw Gladys Mary Coles, Stevie Davies, John Harrison, Tyler Keevil, Patrick McGuinness, Pascale Petit, Alastair Reynolds, Dai Smith, M. Wynn Thomas ac Alan Wall.
Panel beirniaid y llyfrau Saesneg yw Francesca Rhydderch, Deborah Kay Davies a Jon Gower.
Y Rhestr Hir Saesneg yn llawn:
Gladys Mary Coles, Clay (Flambard Press)
Stevie Davies, Into Suez (Parthian)
John Harrison, Cloud Road: A Journey Through the Inca Heartland (Parthian)
Tyler Keevil, Fireball (Parthian)
Patrick McGuinness, Jilted City (Carcanet)
Pascale Petit, What the Water Gave Me: Poems After Frida Kahlo (Seren)
Alastair Reynolds, Terminal World (Orion Books)
Dai Smith, In the Frame: Memory in Society Wales 1910 to 2010 (Parthian)
M Wynn Thomas, In the Shadow of the Pulpit: Literature and Nonconformist Wales (University of Wales Press)
Alan Wall, Dr Placebo (Shearsman Books)