Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod
Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn Ninbych nos Lun nesaf i gychwyn ar y gwaith o baratoi ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r dref ymhen dwy flynedd.

Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards:

“Mae’r Eisteddfod wedi ymweld ag ardal Sir Ddinbych yn rheolaidd dros y blynyddoedd, gan fwynhau croeso cynnes bob tro, ac ers cyhoeddi’r bwriad i ddychwelyd yno, mae nifer fawr o drigolion yr ardal eisoes wedi cysylltu gyda’r swyddfa am ragor o wybodaeth ac i gynnig cymorth. 

“Gobeithio y bydd y ddiddordeb a’r awydd yma’n parhau am fisoedd lawer wrth i’r gwaith o drefnu’r Eisteddfod fynd rhagddo, a rydym yn edrych ymlaen am wythnos i’w chofio yn 2013.”

Ychwanegodd Hywyn Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol – Dysgu a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych:

 “Rydym yn gweld dychweliad yr Eisteddfod i Sir Ddinbych fel cyfle euraid i hybu ein sir – y lle, y bobl a’r traddodiadau, ac wrth gwrs i chwarae ein rhan i werthfawrogi a hybu ymhellach iaith a diwylliant cyfoethog ein gwlad.

 “Mae ’na awydd go iawn o fewn y Cyngor i weithio gyda’r Eisteddfod a chymunedau lleol dros y ddwy flynedd a hanner nesaf i baratoi ar gyfer yr wyl.”

 Bwriad y cyfarfod cyhoeddus cychwynnol yw rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth a gwirfoddoli  i fod yn rhan o’r paratoadau. 

Yn dilyn y cyfarfod hwn, bydd pwyllgorau lleol yr Eisteddfod yn cael eu hethol, a bydd y trafodaethau llenyddol a gweinyddol yn cychwyn, yn ogystal â’r gwaith o greu’r gronfa leol a chodi arian ar gyfer cynnal yr Ŵyl.  Bydddyddiad y cyfarfod hwnnw’n cael ei gyhoeddi’n fuan.

 Fe fydd y cyfarfod yn Neuadd y Dref, Dinbych, nos Lun 18 Ebrill am 18.30.  Mae rhagor o wybodaeth am waith yr Eisteddfod ar gael ar www.eisteddfod.org.uk.