Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau ar ôl i fws mini droi drosodd y tu allan i ysgol gynradd.

Digwyddodd y ddamwain y tu allan i Ysgol Gynradd Croes Onnen, ger y Fenni, yn Sir Fynwy y bore ma.

Aethpwyd ag un o’r 12 o ddisgyblion oedd ar y bws i’r ysbyty ag anaf i’w fraich.

Cadarnhaodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi arestio dyn 59 oed.

“Mae swyddogion yr heddlu yn ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd,” meddai llefarydd.

“Mae dyn 59 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau a hefyd o yrru heb ddigon o ofal.

“Mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.”

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw ar ôl y gwrthdrawiad ar Stryd Groesonen tua 8.50am.

Dywedodd un llygad dyst nad oedd y plant wedi eu hanafu yn ddrwg ond wedi “cael ysgytwad”.

Yn y cyfamser dywedodd Cyngor Sir Fynwy eu bod nhw wedi lansio ymchwiliad, a bod rhieni’r holl blant gafodd eu heffeithio wedi cael gwybod.

“Roedd gwasanaeth bws oedd wedi ei gontractio drwy Gyngor Sir Fynwy i fynd a phlant i Ysgol Gynradd Croes Onnen mewn damwain y bore ma,” meddai llefarydd.

“Mae’n rhyddhad gwybod na gafodd unrhyw un ei anafu yn ddifrifol ac mae ein meddyliau ni â’r plant a’u rheini.

“Rydyn ni wedi lansio ymchwiliad llawn i’r hyn ddigwyddodd ac a oes modd dysgu gwersi o hynny.

“Fe fyddai’n amhriodol gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.”