Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Lansiodd Plaid Cymru eu maniffesto ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad yn yr ATRiuM yng Nghaerdydd heddiw.

Mae’r ddogfen 108 tudalen wedi ei rhannu’n chwe rhan – llywodraeth, yr economi a thrafnidiaeth, iechyd ac addysg, cymdeithas, diwylliant a’r amgylchedd.

Dyma grynodeb o’r addewidion yn y maniffesto:

Llywodraeth

Torri nifer aelodau Cabinet Llywodraeth y Cynulliad

Torri cyflogau Aelodau Cynulliad 10%

Datganoli’r heddlu a’r system gyfiawnder i Gymru

Gostwng yr oed pleidleisio i 16

Gofyn am aelodaeth annibynnol i Gymru yn yr Undeb Ewropeaidd

Ceisio sicrhau setliad ariannol newydd i Gymru, gan ddisodli Fformiwla Barnett

Yr Economi a Thrafnidiaeth

Sefydlu cwmni ‘nid-am-elw-dosbarthiadwy’ fydd yn creu 50,000 o swyddi

Sicrhau fod gan bob busnes yng Nghymru fand eang cyflym erbyn 2015

Gwario 65% o’r gyllideb trafnidiaeth ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2015

Datganoli nawdd Network Rail i Gymru

Rhagor o drenau yn mynd o Gaerdydd i Orllewin Cymru

Iechyd ac Addysg

Newid y system rhoi organau fel bod pobol yn tynnu’r hawl yn ôl yn hytrach na’i roi

Torri nifer y rheolwyr canol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 10%

Diddymu Ymddiriedolaeth Ambiwlansiau Cymru, gan drosglwyddo rheolaeth i Fyrddau Iechyd Lleol

Gwahardd arddangos tybaco mewn siopau a gwahardd ysmygu mewn ceir yng nghwmni plant

Haneru graddfa  anllythrennedd disgyblion ysgol gynradd

Diddymu tlodi plant erbyn 2020

Cymdeithas

Adeiladu o leiaf 6.500 o dai fforddiadwy erbyn 2015

Cyflwyno cynllun ‘Rhentu Nawr Prynu Wedyn’

Pwyso am reithgorau dwyieithog yng Nghymru

Cyflwyno cynllun i insiwleiddio tai

Diwylliant

Gwneud Diwrnod Dewi Sant yn wyliau cenedlaethol

Sicrhau annibyniaeth olygyddol ac ariannol S4C

Cyflwyno enw parth .Cymru

Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru

Amgylchedd

Sicrhau bod Cymru yn lleihau allyriadau 40% rhwng 1990 a 2020

Gwneud Cymru yn hunangynhaliol o ran egni adnewyddadwy erbyn 2030

Comisiynu astudiaeth i weld a fyddai lagŵn llanw yn bosib

Buddsoddi mewn 10,000 hectar o goedwig dros y 20 mlynedd nesaf