Mae cannoedd o blant, pobl ifanc a chefnogwyr wedi gorymdeithio drwy Gaernarfon heddiw er mwyn croesawu Eisteddfod yr Urdd i Eryri 2012 i’r cyffuniau.

Cafodd yr orymdaith ei gynnal o gyrion Caernarfon i’r castell, ychydig dros flwyddyn cyn i’r ŵyl ymweld â thir Coleg Meirion Dwyfor, Glynllifon gerllaw.

Cychwynodd yr orymdaith o Faes Parcio Shell ger Morrisons, Caernarfon am 10.3am bore, gan gyrraedd Castell Caernarfon am 11.30.

Yno fe fuodd band Y Bandana o Gaernarfon yn perfformio set o’u caneuon, band Jazz Ysgol Tryfan yn cyflwyno sioe yn a chriw Cyw yn diddanu.

Dyma rai lluniau o’r orymdaith mewn tywydd heulog yng Nghaernarfon bore ma: