Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi ymosod ar y Blaid Lafur gan eu cyhuddo nhw o geisio troi Etholiadau’r Cynulliad yn refferendwm ar Lywodraeth San Steffan.

Yn ystod y lansiad yn Llandudno a Llanelli ddydd Iau dywedodd cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, y byddai pleidleiswyr yn rhoi cic i Lywodraeth San Steffan ar 5 Mai.

Bydd pobol yn “cymryd y cyfle i ddangos i David Cameron a Nick Clegg nad ydi Cymru yn hoffi eu polisïau nhw,” meddai.

Ond dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, nad oedd eu partneriaid yn y glymblaid yn trin Cymru o ddifri, a bod eu penderfyniad i ganolbwyntio ar San Steffan yn “drahaus”.

“Roeddwn i wedi fy rhyfeddu gan lansiad ymgyrch y Blaid Lafur,” meddai. “Eu neges ganolog yn yr ymgyrch oedd ‘Rydyn ni yma i anfon neges i Cameron a Clegg’.

“Lle mae’r sylwedd? Lle mae’r polisïau? Doeddwn i ddim yn disgwyl i’r Blaid Lafur ymddwyn fel hyn. Lle mae eu syniadau mawr nhw?

“Beth maen nhw’n mynd i’w wneud er mwyn codi safonau addysg? Mae pawb yn cytuno fod angen gwella ar addysg yn y wlad yma.

“Does dim syniadau mawr er mwyn gwella’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Dim syniadau mawr er mwyn gwella’r economi.

“Dim syniadau mawr ynglŷn â sut i ymdopi â’r toriadau mawr sy’n dod gan y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.”