Un o hebogiaid Caerdydd
Mae sawl aderyn ysglyfaethus eisoes wedi dychwelyd i nythu yng Nghymru, wythnosau ynghynt na’r disgwyl.
Dywedodd RSPB nad oedden nhw wedi disgwyl gweld gweilch a hebogau tramor yn dychwelyd i nythu mor fuan.
Mae dau hebog tramor eisoes wedi dychwelyd i nythu yng nghloc neuadd dinas Caerdydd, am y bumed flwyddyn yn olynol.
Mae’r RSPCA yn dweud eu bod gwalch mawrth eisoes wedi ei gweld yn eistedd ar ddau wy, wythnos ynghynt nag y llynedd.
Ac yng Nglaslyn, mae gwalch gwrywaidd eisoes wedi dychwelyd i’w nyth, pythefnos ynghynt na’r disgwyl.
Nid yng Nghymru yn unig y mae’r adar ysglyfaethus wedi dychwelyd yn gynnar. Mae dau hebog tramor wedi nythu ar nendwr ym Manceinion ac yn rhannu’r nyth â phedwar wy coch.
Bydd camera cudd sy’n cadw llygad ar y nyth yn darlledu ar sgrin fawr yn y ddinas o 16 Ebrill ymlaen.
Mae yna hefyd dau hebog tramor â phedwar wy yn Eglwys Gadeiriol Chichester.
Mae dau walch wedi cwrdd yn Ardal y Llynnoedd, a dau walch mawrth wedi glanio yn Fforest Newydd.
Dywedodd Brian Reid o’r RSPCA fod gweld yr adar ysglyfaethus mor gynnar yn “annisgwyl ond yn braf”.
“Mae rhaid o’r adar yn dychwelyd i’r un llefydd bob blwyddyn felly mae ganddyn nhw gefnogaeth mawr yn lleol.
“Mae’n gyfle gwych i bobol gael gweld y bywyd gwyllt sy’n byw ar eu stepen drws.”