Canser
Mae elusen ganser yn dweud bod llawer o gleifion yng Nghymru’n cael cam, heb yr hawl i gael cyffuriau pwysig.
Yn ôl Sefydliad y Canserau Mwy Prin, dyw rhai cyffuriau sydd ar gael yn Lloegr ddim ar gael trwy’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Maen nhw’n dweud y byddai modd talu am y cyffuriau sydd ar gyfer canserau heblaw’r ‘pedwar mawr’ – canser y stumog, y prostrad, y fron a’r ysgyfaint.
Er bod cronfa arbennig ar gael i ddarparu’r cyffuriau yn Lloegr, mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n dweud nad yw cost ac effeithiolrwydd y cyffuriau’n gwarantu eu rhoi am ddim.
‘Cyfyngu’
“Mae meddygon wedi eu cyfyngu yn yr hyn y gallan nhw ei roi i gleifion yng Nghymru,” meddai Prif Weithredwr y Sefydliad, Andrew Wilson, ar Radio Wales.
Doedd byrddau iechyd yng Nghymru ddim wedi cyhoeddi protocolau i feddygon, meddai, ac roedd angen edrych eto ar y drefn.
Mae’r Sefydliad wedi cyhoeddi adroddiadau tebyg am Ogledd Iwerddon a’r Alban, gyda neges debyg.