Chris Bryant
Mae un o Aelodau Seneddol y Blaid Lafur wedi cyhuddo Plaid Cymru o greu grŵp gwleidyddol sy’n ymosod ar Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain.
Ddiwedd y mis diwethaf ymddangosodd taflen gan grŵp gwleidyddol oedd yn honni ei fod yn annibynnol o unrhyw blaid wleidyddol ar wefan Blogmenai, gan alw ar etholwyr i bleidleisio dros unrhyw un ond y Blaid Lafur.
Mae gwefan United and Welsh hefyd wedi ymddangos ers hynny – a chafodd ei gofrestru ar 1af o Ebrill, ar ôl i’r daflen ymddangos ar y we.
Heddiw dywedodd AS y Rhondda, Chris Bryant, yn Nhŷ’r Cyffredin fod gwefan United and Welsh wedi ei gofrestru i swyddfa etholaethol arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn Llanrug.
Ychwanegodd “ei fod yn amlwg mai swyddfa Ieuan Wyn Jones oedd wedi creu’r wefan”.
Ond mae yna amheuon ai’r un bobol oedd yn gyfrifol am y daflen a’r wefan. Mae’r llun o’r daflen ar wefan United and Welsh yr un llun sydd ar wefan Blogmenai – gan awgrymu fod rhywun wedi creu’r wefan er mwyn ceisio pardduo Plaid Cymru.
“Mae’r ddelwedd yn sicr wedi ei chodi o fy mlog i – mae’r plyg i lawr y canol wedi ei gwneud gen i wedi i mi argraffu’r ddogfen a chyn i mi ei sganio i’w throi yn ddogfen PDF,” meddai Cai Larsen, awdur y blog, wrth Golwg 360.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur eu bod nhw’n drwgdybio mai cefnogwyr Plaid Cymru oedd y tu cefn i’r hysbysebion pan ymddangosodd yn y lle cyntaf.
Mae Plaid Cymru wedi gwadu cyfrifoldeb am gynnwys y daflen a’r wefan.