O heddiw ymlaen mae pob fferyllfa yng Nghymru yn cael cynnig y bilsen ar-ôl-rhyw yn rhad ac am ddim dan gynllun newydd, sy’n cael ei gyflwyno i annog mwy o ferched i osgoi beichiogi yn ifanc.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i bwysleisio mai condoms yw’r ffordd orau o osgoi beichiogi yn y lle cynta’.
Cyn heddiw roedd 382 o’r 707 o fferyllfeydd yng Nghymru yn cynnig y bilsen heb fod angen am bresgripsiwn.
Er mwyn sicrhau gwasanaeth sydd yr un fath i bawb drwy’r wlad, mae Llywodraeth Cymru wedi creu trefn newydd.
“Mae’r cynllun yn cydnabod bod angen i ni ddarparu addysg am sut i gael rhyw a chynnal perthynas i bobol ifanc sydd o safon uchel,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Y cyngor gan bobol broffesiynol yn y maes iechyd, yw mai condoms yw’r ffordd orau o atal-beichiogi a chadw’n glir o glefydau rhywiol.
“Dyma fydd yn parhau’r ffordd orau o atal-beichiogi, ond o heddiw ymlaen bydd fferyllwyr yn gallu darparu’r bilsen ar-ôl-rhyw i unigolion, a darparu gwasanaeth cwnsela a chynghori.”
Mae’r nifer sy’n beichiogi’n ifanc yng Nghymru ymysg yr uchaf yn Ewrop, gyda 73.3 o bob 1,000 o ferched y Cymoedd yn beichiogi tra’n eu harddegau yn 2008. Y cyfartaledd yng ngweddill Cymru a Lloegr yn yr un flwyddyn oedd 40.6.