Stanislaw Gliszczynski
Mae Heddlu Gwent wedi rhyddhau llun o ddyn y maen nhw’n awyddus i siarad ag ef, yn dilyn llofruddiaeth honedig yng Nghasnewydd.

Bu farw Ramunas Raulinautis, 34 oed, yn Ysbyty Treforys fore Sadwrn, 12 Mawrth, ar ôl tân y tu allan i westy’r Gateway Express, Heol Cas-gwent, ar 9 Mawrth.

Maen nhw’n credu fod Ramunas Raulinautis wedi ei roi ar dân ar ôl i rywun neu rywrai ymosod arno.

Heddiw cyhoeddodd yr heddlu eu bod nhw eisiau siarad â Stanislaw Gliszczynski, sy’n 30 oed.

Mae ganddo wallt brown hyd at ei ysgwyddau a llygaid brown. Mae ganddo datŵ llwythol ar ei fraich chwith a band Celtaidd ar ei goes chwith.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano gysylltu â’r Heddlu.

Maen nhw hefyd yn galw ar unrhyw un a oedd yn ardal Heol Cas-gwent rhwng 7pm a 10.15pm Ddydd Mercher, 9 Fawrth, neu unrhyw un â gwybodaeth ynglŷn â beth ddigwyddodd, i gysylltu â nhw ar 101 neu gyda Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.