Kate Middleton a'r Tywysog William
Mae’r Teulu Brenhinol wedi cadarnhau y bydd y Tywysog William a Kate Middleton yn byw yng nghastell Caernarfon ar ôl eu priodas ddiwedd y mis.
Cyhoeddodd Tŷ Clarence y byddai £15m yn cael ei fuddsoddi mewn adfer rhan helaeth o aden ogleddol y castell, gan ychwanegu ystafelloedd fyw, ystafelloedd gwely a cheginau at Dwr yr Eryr a Thwr y Frenhines.
Bydd y pâr priod yn byw yn eu bwthyn presennol ar Ynys Môn, hyd nes bod y gwaith yn cael ei gwblhau, tua haf 2012.
Dywedodd llefarydd ar ran y Teulu Brenhinol y byddai’r castell ar gau i dwristiaid tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, ond y byddai’n ail-agor yn rhannol pan nad yw’r Tywysog gartref.
“Mae gan Gastell Caernarfon gysylltiadau cryf â thraddodiad Tywysog Cymru,” meddai’r llefarydd ar ran y Frenhiniaeth wrth Golwg 360. “Mae’n gwneud synnwyr perffaith fod y Tywysog William a Kate Middleton yn byw yno, ymysg eu pobol nhw.
“Mae’n gyfleus i’r Tywysog William deithio i’w waith yn y Fali, ac ni fydd rhaid iddo deithio’n bell pan fydd yn cael ei goroni’n Dywysog Cymru yn swyddogol chwaith.”
‘Hwb i’r dref’
Dywedodd y cynghorydd Taeog Jones, sy’n cynrychioli ward y castell, y byddai cael y Tywysog a’r darpar-Dywysoges yn byw yno yn hwb enfawr i’r dref.
“Mae’r briodas yn mynd i gael sylw yn fyd-eang a bydd pawb eisiau dod i Gaernarfon i weld ble mae William a Kate yn byw,” meddai.
“Mae pobol Caernarfon wrth eu bodd â’r Teulu Brenhinol ac fe fyddwn nhw’n rhoi croeso mawr i Dywysog a Thywysoges Cymru.”