Tren yng ngorsaf Abertawe
Mae’r Llywodraeth wedi gwadu honiad bod gogledd Cymru’n cael cam ar ôl i AC Ceidwadol brotestio mai dim ond pobol o’r de sydd ar Bwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru.
Dyw hanner Cymru ddim wedi’i chynrychioli, meddai Mark Isherwood AC, a does gan yr aelodau ddim gwybodaeth o ddydd i ddydd am reilffyrdd yr ardal.
“Mae’n codi cwestiynau am gynllun trafnidiaeth Cymru-gyfan,” meddai’r Ceidwadwr, sy’n aelod rhanbarthol tros Ogledd Cymru.
‘Dewis yn deg’
Ond, yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, nid fesul ardal y cafodd pobol eu dewis i’r pwyllgor sy’n delio â phob agwedd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Fe gafodd aelodau eu penodi drwy benodiadau agored cyhoeddus ac roedd gofyn i ymgeiswyr ddangos dealltwriaeth o’r materion dydd-i-ddydd sy’n effeithio ar ddefnyddwyr cludiant cyhoeddus o bob cefndir,” meddai.
“Gofynnwyd iddyn nhw hefyd brofi bod ganddynt brofiad o weithio i ddylanwadu ar bolisi llywodraeth. DTop of Form
oedd eu penodiadau ddim yn seiliedig ar leoliad ac chafodd yr aelodau ddim o’u penodi i gynrychioli eu hardaloedd unigol.”
Cefndir
Fe fydd cyfarfodydd y pwyllgor yn digwydd ar hyd a lled Cymru, meddai’r llefarydd, gan ychwanegu y byddai aelodau o’r cyhoedd hefyd yn gallu rhoi eu barn.
Yn 2009 y gwnaed y gorchymyn i sefydlu’r pwyllgor sy’n cynnwys Cadeirydd a naw aelod. Roedd un o’r aelodau wedi bod â chysylltiad gwaith â’r porthladd yng Nghaergybi.