Archesgob Caergaint
Mae llawer o Foslemiaid yn anhapus gyda’r erlid sy’n digwydd yn enw crefydd mewn llefydd fel Pacistan, meddai Archesgob Caergaint.
Ac fe ddywedodd fod angen dwyn pwysau i wneud yn siŵr bod pobol grefyddol yn parchu hawliau dynol.
Mewn cyfweliad arbennig ar gyfer y cylchgrawn Golwg, fe ddywedodd Rowan Williams bod tyndra rhwng Moslemiaid goddefgar a rhai sy’n gwrthod crefyddau eraill yn llwyr.
“Mae rhai Moslemiaid yn methu’n lan ag ymdopi â chrefyddau eraill, ond nid pawb o bell ffordd,” meddai yn ystod ymweliad â Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant yn Llanbed i agor Ysgol Ddiwinyddiaeth newydd yn y Brifysgol sy’n cynnwys Astudiaethau Islamaidd.
“Mae llawer ohonynt yr un mor anesmwyth â minnau â’r hyn sy’n digwydd ym Mhacistan a mannau eraill.”
Fe ddywedodd bod pwerau gwleidyddol yn defnyddio crefydd mewn gwledydd fel Pacistan ond fe ddywedodd fod “gwarchod hawliau dynol yn waelodol i ffyniant crefydd”.
Rhagor o’r cyfweliad yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg