Ieuan Wyn Jones
Mae bod mewn partneriaeth gyda’r Blaid Lafur wedi gwneud byd o les i Blaid Cymru, meddai ei harweinydd.

Roedd bod yn rhan o lywodraeth glymblaid yn ei gwneud hi’n haws i bobol gredu ynddi, meddai Ieuan Wyn Jones mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Golwg.

Roedd y profiad yn un “adeiladol”, meddai, gan fod Plaid Cymru wedi bod yn aros am flynyddoedd am y cyfle i weithredu ei syniadau.

Ac, wrth siarad yn ystod cynhadledd y Blaid, fe ddywedodd mai’r her nesa’ oedd gwneud mwy nag amddiffyn Cymru rhag toriadau o Lundain.

“Mae’n rhaid i chi wneud rhywbeth efo’r adnoddau sydd gynnoch chi ac i fod yn arloesol, ac i fod yn wahanol ac i drawsnewid pethau, yn hytrach na hel esgusodion eich bod chi’n methu â gwneud pethau,” meddai.

Rhagor o’r cyfweliad yn rhifyn yr wythnos yma o Golwg