Castell Caernarfon - un o'r safleoedd
Fe fydd 30,000 o bobol yn colli’r hawl i fynd i mewn am ddim i rai o safleoedd hanesyddol Cymru.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth ei fod yn rhoi pen ar y drefn o roi mynediad am ddim i bobol tros 60 a phobol ifanc dan 16 oed i safleoedd y corff hanes Cadw.

Mae hynny’n cynnwys rhai o gestyll, plastai ac abatai mwya’ adnabyddus Cymru.

Ar ôl dwy flynedd a hanner, doedd y cynllun ddim wedi llwyddo yn un o’i brif amcanion, i ddenu llawer rhagor o deuluoedd incwm-isel, meddai Alun Ffred Jones, er bod y tocynnau wedi cael eu defnyddio 39,000 o weithiau.

Y gost

Yr amcangyfri’ oedd bod y cynllun yn costio £130,000 oherwydd colli incwm a gorfod talu arian yn ôl i bobol sy’n aelodau o Etifeddiaeth y Cymry. Fe fyddan nhw hefyd yn colli’r ad-daliadau.

O hyn ymlaen, meddai’r Gweinidog, fe fydd yn gofyn i Cadw ganolbwyntio ar gynnal dyddiau agored a digwyddiadau i deuluoedd, a fydd hefyd yn cynnig budd cymdeithasol ac economaidd ehangach.

Mae diwrnod agored i holl safleoedd Cadw y costio rhwng £15,000 a £20,000 mewn incwm coll.

Ond roedd y rheiny a digwyddiadau cymunedol yn llawer mwy tebyg o ddenu pobol o grwpiau newydd i’r safleoedd, meddai Alun Ffred Jones.

Dyddiad dod i ben

Fe fydd y cynllun yn dod i ben ar 1 Mehefin eleni ond, yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, fe fydd modd dal ati i ddefnyddio’r tocynnau tair-blynedd hyd at y dyddiad terfyn sydd arnyn nhw.

Roedd 84% o’r tocynnau am ddim wedi eu hawlio gan bobol dros 60 oed a’r gweddill gan bobol ifanc dan 16.

Fe fydd grwpiau ysgolion a phobol gydag anableddau – a’r rhai sy’n eu tywys – yn parhau i gael mynediad am ddim.