Llun o wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’n “siomedig” nad oes gan Undebau Myfyrwyr Cymraeg unrhyw gynrychiolaeth ar fwrdd cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dyna farn Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Rhys Llwyd, sy’n dweud ei fod yn siom bod cynrychiolydd y myfyrwyr ar y bwrdd, Llywydd NUS Cymru, Katie Dalton, yn ddi-Gymraeg.
Fe fuodd Rhys Llwyd yn cynrychioli’r Gymdeithas ar y Bwrdd Gweithredol fu’n ystyried y ffordd olau o sefydlu’r Coleg Cymraeg.
Cyhoeddodd y coleg ddydd Iau diwethaf fod 13 o bobol wedi eu penodi’n gyfarwyddwyr ar y coleg, gan gynnwys y cadeirydd, yr Athro Merfyn Jones.
“O fewn y Bwrdd Gweithredu bu i mi ac ambell aelod arall ddadlau fod angen i’r Undebau Myfyrwyr Cymraeg gael cynrychiolaeth ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg,” meddai Rhys Llwyd wrth Golwg360.
Roedd yn dweud ei fod yn “siomedig na chafod y syniad ei gefnogi gan fwyafrif aelodau’r Bwrdd Gweithredu a’i fabwysiadu i mewn i’r cyfansoddiad”.
“Bu i rai ohonom ddadlau hefyd fod angen gwneud y Gymraeg yn hanfodol cyn penodi cyfarwyddwyr, a gwaetha’r modd ni chefnogwyd yr awgrym synhwyrol yma gan y mwyafrif chwaith,” meddai.
Roedd yn credu bod y penderfyniadau hyn yn “ymddangos yn fwy rhyfedd” gan fod y cyfansoddiad yn nodi mai “Cymraeg fydd iaith weithredol y Coleg” yn fewnol ac yn gyhoeddus.
‘Ddim digon da’
Dywedodd Rhys Llwyd fod nifer o’r datblygiadau diweddaraf yn “haeddu cefnogaeth” – gan gynnwys y cynllun ysgoloriaethau.
“Er bod y datblygiadau diweddaraf yn gam i’r cyfeiriad cywir – mae llawer o’r datblygiadau hefyd yn syrthio’n fyr o’r ddelfryd oedd gyda ni yn ystod y blynyddoedd hir o ymgyrchu a roes fodolaeth i’r Coleg Cymraeg yn y lle cyntaf,” meddai.
Dywedodd ei bod yn ddeng mlynedd ers iddo fynychu ei brotest cyntaf dros Goleg Ffederal Cymraeg ac yntau yn y chweched dosbarth.
“Dylai hi fod yn destun llawenydd i mi felly fod y Coleg yn agor eleni. Ond mae fy adnabyddiaeth o geidwadaeth y sector addysg uwch yng Nghymru yn peri i mi ofidio fod sawl brwydr arall eto i’w ennill dros y Gymraeg yn y sector addysg uwch – y cyntaf o’r rheiny yw cael cynrychiolaeth uniongyrchol i fyfyrwyr Cymraeg ar Fwrdd y Coleg.”