Bydd y parc busnes ger Gorsaf Rheilffordd Caerdydd
Mae cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd parc busnes newydd yn cael ei sefydlu ger canol y brifddinas.

Mae arweinwyr y cyngor yn gobeithio y bydd yr ardal, fydd yn cael ei alw yn Ardal Busnes Caerdydd, yn derbyn hyd at £60 miliwn o’r pwrs cyhoeddus a £100 miliwn arall o arian preifat.

Mae’r cynllun yn cynnwys canolfan cynadleddau a gorsaf fysiau newydd ger gorsaf drenau Canol Caerdydd.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Rodney Berman, ei fod yn “ddechrau cynllun economaidd newydd ar gyfer y ddinas” ac y bydd y parc busnes yn “bwerdy i economi Cymru”.

Ychwanegodd y cyngor y gallen nhw gyfrannu hyd at £39 miliwn i’r prosiect, ac y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ychwanegu £21 miliwn.

Y gobaith yw y bydd y cynllun yn creu miloedd o swyddi drwy ddenu cwmnïau llewyrchus.

‘Cynlluniau cadarnhaol’

Wrth gyhoeddi nawdd gwerth £21 miliwn ar gyfer y prosiect, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, fod Caerdydd wedi gyrru economi Cymru yn ei flaen.

“Er mwyn i’r economi barau i dyfu a ffynnu mae angen i’r brifddinas ddatblygu ardal fusnes arbennig sy’n cwrdd â gofynion y sector breifat,” meddai.

“Fe fydd y buddsoddiad ydw i’n ei gyhoeddi heddiw yn caniatáu i Gyngor Caerdydd fwrw ymlaen â’u cynlluniau uchelgeisiol.

“Wrth gefnogi cynlluniau fel hyn mae llywodraeth yn gallu cael effaith cadarnhaol.”