Prifysgol Abertawe
Fe fydd y Llywodraeth yn rhoi £15 miliwn tuag at ddatblygu Parc Gwyddoniaeth newydd yn ardal Abertawe.
Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, yn cyhoeddi manylion y grant heddiw ar gyfer y datblygiad ar y ffordd allan o’r ddinas i gyfeiriad Port Talbot.
Yn ôl Ieuan Wyn Jones, fe fydd y parc o dan adain Prifysgol Abertawe’n creu miloedd o swyddi ac yn cyfrannu miliynau o bunnoedd at economi’r ardal.
Fe fydd y parc yn cynnwys cyfleuster ymchwil a phrofi a fydd yn cael ei gynnal ar y cyd gyda chwmni Rolls-Royce, cyfleusterau dysgu i rai o adrannau gwyddonol y Brifysgol a llety i fyfyrwyr.
Rhan o’r nod yw hybu mwy o gydweithio rhwng y Brifysgol a diwydiant.
‘Biliynau’ i’r economi
Mae astudiaeth economaidd gan y Brifysgol yn amcangyfrif y bydd y cynllun yn dod â mwy na £3 biliwn i economi’r rhanbarth yn ystod y degawd nesaf ac yn creu miloedd o swyddi.
“Er mwyn i Gymru lwyddo yn yr economi modern, mae’n rhaid i academia a busnes weithio gyda’i gilydd,” meddai Ieuan Wyn Jones oedd yn ‘falch’ o gael cyhoeddi’r arian i wneud y campws yn ‘realiti’.
Roedd Cyngor Castell Nedd – Port Talbot wedi rhoi hawl cynllunio sylfaenol i’r Parc Gwyddoniaeth newydd ym mis Chwefror.