Ysbyty Treforys
Mae cynlluniau i wario bron £60 miliwn ar un o brif ysbytai Cymru yn mynd yn eu blaen.
Yn ôl y Llywodraeth, fe fydd y gwaith yn Ysbyty Treforys, Abertawe, yn gwella llawer o adnoddau arbenigol ac yn sicrhau nad oes dyblygu gwaith rhyngddi ac Ysbyty Singleton yn y ddinas.
Fe gadarnhaodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, bod y Llywodraeth yn rhoi arian i weithredu cynlluniau’r Bwrdd Iechyd yn yr ardal.
Fe fydd rhai o’r prif newidiadau’n cynnwys:
- Cael gwared ar hen adeiladau a godwyd yn yr 1940au.
- Adnoddau endosgopeg i gynnal archwiliadau mewnol.
- Uned arbennig i gynnwys yr holl waith ar ail-lunio wynebau a thrin y pen a’r gwddw.
- Rhagor o adnoddau i drin anhwylderau’r aren.
Mae’r Llywodraeth wedi clustnodi cyfanswm o £59.5 miliwn ar gyfer y gwaith. Maen nhw’n dweud y bydd arbedion o dorri ar ddyblygu’n mynd yn ôl i’r gwasanaeth.