Muammar al-Gaddafi (Llun gan Stefan Rousseau/PA)
Celwydd oedd honiadau’r gwrthryfelwyr yn Libya eu bod wedi cipio tref enedigol y Cyrnol Gaddafi.
Ddoe, roedden nhw’n dweud eu bod wedi gyrru lluoedd y Llywodraeth o dref Sirte … ond fe ddaeth yn amlwg yn ystod y dydd nad oedd hynny’n wir.
Er hynny, mae disgwyl brwydro caled yn yr ardal wrth i filwyr Gaddafi baratoi i amddiffyn y dref sy’n cael ei hystyried yn darged symbolaidd.
Ar y cyfan, mae adroddiadau’n awgrymu eu bod nhw wedi llwyddo i atal symudiad y gwrthryfelwyr sy’n cael eu cefnogi gan ymosodiadau o’r awyr gan awyrennau’r Unol Daleithiau a Nato.
Fe fu Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn amddiffyn gweithredoedd y cynghreiriaid gan ddweud mai’r unig nod oedd amddiffyn pobol gyffredin.
Ochri mewn rhyfel, meddai Rwsia
Roedd Rwsia, yn enwedig, wedi bod yn beirniadu’r cyrchoedd awyr gan ddweud bod y llywodraethau rhyngwladol yn ochri gyda’r gwrthryfelwyr mewn rhyfel cartref.
Ond, yn ôl Barack Obama, er na allai’r Unol Daleithiau ymyrryd pob tro yr oedd gormes, roedd yna beryg gwirioneddol yn yr achos hwn o “drais dychrynllyd”.
Ymhlith straeon eraill yn y wasg, mae awgrym y bydd y Cyrnol Gaddafi yn cael cyfle i adael Libya – yn ôl papur y Times, fe fyddai’r Unol Daleithiau a gwledydd Prydain yn fodlon caniatáu hynny.