Jeremy Colman
Fe fydd tystiolaeth am gamweithredu gan gyn brif swyddog archwilio Cymru’n cael ei hanfon at Heddlu De Cymru.
Fe benderfynodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad bod angen ystyried a oedd Jeremy Colman wedi torri’r gyfraith wrth gamreoli’r Swyddfa Archwilio.
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, Darren Millar, roedd y cyn-Archwilydd Cyffredinol wedi camarwain y Pwyllgor tros gyfrifon y swyddfa, yn arbennig taliadau i weithwyr adael yn gynnar.
Gyda’r rheiny, roedd y Swyddfa’n gwneud colledion sylweddol, meddai’r pwyllgor, a hyd yn oed pe na bai eisoes yn y carchar am droseddau rhywiol, fe fydden nhw wedi gorfod argymell ei ddiswyddo.
Beirniadu’r sylw
Ond, wrth groesawu’r adroddiad, mae’r Archwilydd Cyffredinol presennol wedi beirniadu’r pwyllgor am dynnu cymaint o sylw at y posibilrwydd o gamymddwyn troseddol.
Roedd y Swyddfa Archwilio ei hun wedi ystyried y dystiolaeth a dod i’r casgliad mai tenau iawn oedd y tebygrwydd o achos llys llwyddiannus.
Roedd angen symud ymlaen, meddai Huw Vaughan Thomas, gan ddweud bod y Swyddfa eisoes wedi gweithredu i dynhau’r trefniadau archwilio.
Barn y Cadeirydd
“Mae fy nghyd-aelodau a minnau’n credu bod amheuaeth yn parhau y gellir ystyried agweddau ar ymddygiad Mr Colman yn droseddol,” meddai Darren Millar.
“Fydd y cwestiwn hwn ddim yn cael ei ateb nes bod yr awdurdod priodol yn adolygu’r dystiolaeth yr ydym wedi ei chasglu.
“Dyna paham yr ydym wedi cymryd y cam difrifol o drosglwyddo ein hadroddiad i Heddlu De Cymru er mwyn ei ystyried ymhellach.”