Alex Chant
Mae’r heddlu wedi ail-apelio am wybodaeth, flwyddyn ar ôl dod o hyd i deithiwr tacsi ar ochor y ffordd gydag anafiadau difrifol i’w ben.
Mae Alex Chant yn parhau i dderbyn gofal mewn uned adsefydlu yng Nghasnewydd, ac fe dreuliodd wythnosau yn yr ysbyty.
Dywedodd Heddlu Gwent fod y dyn 21 oed wedi ei weld yn dringo allan o dacsi oedd yn symud ar Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd ar ôl nos Sadwrn allan ym Maendy.
Gadawodd Alex Chant, o Lyswyry, sgwâr Maendy tua 12.15pm ar 27 Mawrth mewn tacsi tywyll.
Daethpwyd o hyd iddo ar ochr y ffordd ger CarCraft chwarter awr yn ddiweddarach.
Roedd yn gwisgo crys-t glas a gwyn a jîns glas. Mae’n 6’1” ac mae ganddo wallt brown tywyll.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu ei fod yn bosib fod gan “yrrwr y tacsi wybodaeth hanfodol am beth ddigwyddodd o fewn y cerbyd y noson honno a sut a pam y gadawodd y cerbyd”.
Mae’n “bwysig iawn” fod yr heddlu yn dod o hyd i yrrwr y tacsi, medden nhw.
Dywedodd tad Alex Chant, Stephen, fod ei fab yn gwella’n araf “oherwydd difrifoldeb ei anafiadau”, ond ei fod wedi gwella yn well nag oedden nhw wedi ei ddisgwyl.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ddonio 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.