Castell Aberteifi (Llun Ymddiriedolaeth Cadwgan)
Bydd £.4.7m yn cael ei fuddsoddi yn y castell lle cafodd yr Eisteddfod gyntaf erioed ei chynnal.
Cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri heddiw y bydd Castell Aberteifi yn cael yr arian er mwyn adfer yr adeilad a buddsoddi mewn adnoddau newydd.
Bydd y castell yn cynnwys amgueddfa, caffi, shop a gweithdy, ymysg atyniadau eraill.
Y nod yw cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r castell o 3,000 i 30,000. Maen nhw’n gobeithio y bydd modd denu rhagor o dwristiaid i’r ardal a hefyd cynnwys mwy o wybodaeth am y castell, gan gynnwys hanes yr Eisteddfod gyntaf.
Dywedodd Jann Tucker o’r Ymddiriedolaeth y byddai’r arian yn adfer y castell “i’w briod le yn hanes Cymru”.
Fe fydd yna hefyd gyfle i bobol sydd ar eu gwyliau aros yn y bythynnod o fewn muriau’r castell.
Maen nhw hefyd yn bwriadu cynnal cloddfa archeolegol er mwyn cael gwybod beth sydd o dan y gerddi gafodd eu creu yn y 19eg ganrif.
Hanes y castell
Cafodd y castell ei adeiladu gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif, cyn cael ei gipio gan Rhys ap Gruffudd yn 1166, a’i ail-adeiladodd mewn carreg yn 1171.
Cafodd Eisteddfod Aberteifi ei chynnal yno yn 1176 dan nawdd Yr Arglwydd Rhys.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cadwgan yn 2001 er mwyn achub dau fwthyn gerllaw porth y castell. Ar ôl cwblhau’r gwaith hwnnw penderfynodd yr ymddiriedolaeth wneud cais ar y cyd â’r perchnogion Cyngor Ceredigion am arian i adfer y castell ei hun.
Mae yna blasty Georgaidd o 1827 o fewn muriau’r castell, ac mae hwnnw yn ogystal â’r gerddi yn eiddo i asiantaeth henebion Cadw. Mae gerddi’r castell yn gartref i goed anghyffredin yn ogystal ag ystlumod prin.