Shane Williams
Mae asgellwr Cymru, Shane Williams, wedi ymddiheuro i’r heddlu ar ôl i’w fab ffonio 999 drwy gamgymeriad.

Galwodd swyddogion yng nghartref y chwaraewr ger Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, ar ôl derbyn yr alwad o ffon ei gartref.

Cyfaddefodd Shane Williams, sy’n chwarae dros ranbarth y Gweilch, fod ei fab 18 mis oed Cartrer wedi deialu’r rhif.

“Alla’i ddim credu fod yr heddlu wedi bod draw i fy nhŷ i eto – roedd fy mab 18 mis oed wedi ffonio 999! Dyna’r trydydd tro eleni.”

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-powys fod galwadau 999 damweiniol yn broblem gynyddol.

“Rydyn ni’n deall nad ydi rhieni yn gallu cadw llygad ar eu plant bob eiliad o’r dydd ond dylid gwneud yn siŵr nad ydi plant yn gallu cael gafael ar ffonau,” meddai.

“Mae gan yr heddlu gyfrifoldeb i ymateb i bob galwad 999.

“Yn anffodus gallai swyddogion fethu ag ymateb i argyfwng go iawn am eu bod nhw’n mynd i’r afael â galwad damweiniol.”