Chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey fydd capten Cymru yn ystod gêm ragbrofol Ewro 2012 yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.
Datgelodd hyfforddwr Cymru, Gary Speed, y byddai Aaron Ramsey yn gapten am y tro cyntaf wrth iddo ddychwelyd i’r sgwad genedlaethol ar ôl torri ei goes.
Aaron Ramsey
Bu’n rhaid i Gary Speed ddewis capten arall ar ôl i’r cyn-gapten, Craig Bellamy, ddweud na fyddai’n chwarae oherwydd anaf i’w ben glin.
Roedd disgwyl y byddai James Collins neu Ashley Williams, sydd wedi bod yn gapteiniaid ar Gymru yn y gorffennol, yn camu i mewn i’r bwlch.
“Aaron Ramsey fydd y capten,” meddai Speed. “Rydw i wedi bod yn meddwl am y peth ers cryn amser.
“Mae’n benderfyniad ar gyfer y dyfodol, a chynllunio ymlaen. Roedd dau neu dri ymgeisydd ar gyfer y swydd.
“Fe siaradais i gydag Aaron cyn gwneud y penderfyniad a dweud fod cyfrifoldebau ynghlwm â’r swydd, ac roedd yn hapus â hynny.
“Dw i wrth fy modd ac mae’n hapus iawn.”