Alun Ffred Jones
Mae’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, wedi cyhoeddi y bydd rhagor o arian yn cael ei fuddsoddi er mwyn hybu golff yng Nghymru.
Cyhoeddodd heddiw y bydd arian yn cael ei fuddsoddi yng Nghystadleuaeth Agored Cymru y Celtic Manor, yn dilyn llwyddiant y Cwpan Ryder y llynedd.
Bydd Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cyllid o hyd at £1.2 miliwn ar gyfer Cystadleuaeth Agored Cymru dros y pedair blynedd nesaf.
Y nod meddai Alun Ffred Jones yw datblygu Cystadleuaeth Agored Cymru y Celtic Manor fel un o’r prif cystadlaethau ar amserlen y Daith Ewropeaidd.
Dywedodd y bydd y ffaith bod nifer o chwaraewyr golff gorau’r byd yn dychwelyd i’r Celtic Manor ar gyfer y gystadleuaeth yn siŵr o ddenu ymwelwyr golff newydd i Gymru.
Manteisio ar etifeddiaeth Cwpan Ryder
Mae astudiaeth effaith economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod Cystadleuaeth Agored Cymru y Celtic Manor wedi dod a mwy na £ 1.5 miliwn y flwyddyn i economi Cymru trwy wylwyr yn gwario ar lety, bwyd, teithio, tocynnau twrnamaint a chostau cysylltiedig.
“Cyhoeddwyd effaith economaidd Cwpan Ryder ddoe,” meddai Alun Ffred Jones. “Fodd bynnag, mae effaith y gystadleuaeth gofiadwy honno’n ymestyn y tu hwnt i’r pedwar diwrnod o gystadlu yn ystod mis Hydref 2010.
“Cafodd ennill yr hawl i gynnal Cwpan Ryder effaith sylweddol ar dwristiaeth golff yng Nghymru. Ers 2002, mae gwerth twristiaeth golff wedi cynyddu o £7 miliwn i £42 miliwn y flwyddyn. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn manteisio ar yr etifeddiaeth hon.
“Byddwn yn ceisio creu portffolio o ddigwyddiadau ar draws Cymru a fydd yn adeiladu ar lwyddiant Cwpan Ryder ac yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth golff sy’n gallu cystadlu gydag Iwerddon a’r Alban sydd wedi’u hen sefydlu fel cyrchfannau golff.
“Rwyf hefyd yn falch iawn bod y digwyddiad yn mynd ati’n weithgar i ddenu pobl drwy stondinau arddangos, a ardal gwella sgiliau a ddarperir am ddim i gefnogwyr gan Datblygu Golff Cymru, bydd rhai o brif chwaraewyr proffesiynol y Daith Ewropeaidd hefyd yn cael ei gwahodd i gymryd rhan.
Dywedodd Dylan Matthews, Prif Weithredwr y Celtic Manor eu bod nhw’n ddiolchgar i Lywodreath y Cynulliad am y cymorth ariannol.
“Fe fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i hyrwyddo Cystadleuaeth Agored Cymru y Celtic Manor a rhoi gwerth am arian i’n gwylwyr,” meddai.
“Mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar yr etifeddiaeth o lwyfannu Cwpan Ryder yng Nghymru am y tro cyntaf, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu sêr y Daith Ewropeaidd yn ôl i Celtic Manor ym mis Mehefin. “