Mae Prif Weithredwr y Crusaders, Rod Findlay, wedi dweud fod dyfodol disglair i’r clwb wrth iddynt wneud cais am drwydded i chwarae yn y Super League.

Fe fydd rhaid i’r clwb Cymreig ennill trwydded newydd cyn eu bod nhw’n cael parhau i gystadlu yn y Super League tymor nesaf.

Fel rhan o’r cais hwnnw cadarnhaodd y Crusaders bod eu dyfodol tymor hir gyda Wrecsam a’r Cae Ras. Fe fydd y clwb yn talu swm sylweddol tuag at gostau cynnal a chadw’r stadiwm.

“Fe ddechreuodd y Crusaders yn Ne Cymru, ond r’yn ni wedi dod o hyd i gartref newydd yng Ngogledd Cymru,” meddai Rod Findlay.

“Mae’r Crusaders wedi dod yn bell ers i ni ffurfio.  Tair blynedd a hanner ‘nôl roedd y clwb yn codi tlws adran dau’r Gynghrair Genedlaethol o flaen 300 yn Gateshead.

“Ar ddechrau’r tymor yma, fe chwaraeodd y clwb o flaen 30,000 o bobl yn Stadiwm y Mileniwm.

“Y gobaith drwy ennill trwydded newydd i chwarae yn y Super League yw y byddwn ni’n glwb cryf, cynaliadwy a chystadleuol am flynyddoedd i ddod.

“R’yn ni’n bwriadu chwarae rôl bositif yng Nghymru a siroedd cyfagos yn Lloegr a pharhau i weithio gyda’n partneriaid busnes, cefnogwyr, awdurdodau lleol, y gymuned a sefydliadau addysg.

“Bydd dyfodol y Crusaders yn Wrecsam yn un cyffrous iawn.

“R’yn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar ein partneriaeth gyda Chlwb Pêl Droed Wrecsam a datblygu’r Cae Ras ymhellach.”