Gareth Bale
Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cadarnhau bod Gareth Bale wedi tynnu ‘nôl o’r garfan fydd yn wynebu Lloegr ddydd Sadwrn, oherwydd anaf i linyn y gar.

Mae’r newyddion yn ergyd enfawr i obeithion tîm Gary Speed, fydd yn wynebu’r Saeson yn Stadiwm y Mileniwm yn rowndiau ragbrofol cystadleuaeth Ewro 2012.

Dywedodd y gymdeithas fod y Cymro yn teimlo fod ei gyhyr ychydig yn dynn ar ôl chwarae gêm lawn i Tottenham yn erbyn West Ham y penwythnos diwethaf.

Yn ôl y gymdeithas fe fethodd Gareth Bale dau ddiwrnod cyntaf ymarferion y garfan er mwyn ceisio gwella’r anaf.

Fe geisiodd ymarfer dydd Mawrth, ond roedd ei gyhyr yn dal i deimlo’n dynn.

Ni wnaeth Bale ymarfer ddydd Mercher ac fe gafodd ei anfon am sgan. Dywedodd Cymdeithas Bêl Droed Cymru bod y sgan wedi datgelu iddo ddioddef yr anaf yr wythnos diwethaf.

Roedd Gareth Bale wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at yr ornest ac wedi galw ar y cefnogwyr i roi hwb i’r tîm.