Gareth Bale
Fe fydd datganiad yn hwyrach y bore yma ynglŷn â ffitrwydd chwaraewr mwya’ disglair Cymru, Gareth Bale.

Ond mae’n ymddangos yn sicr bellach ei fod allan o’r geam yn ebryn Lloegr.

Mae gwefan papur newydd y Sun wedi bod yn honni y bydd chwaraewr canol cae ymosodol Spurs yn mynd yn ôl i Lundain heddiw ar ôl anafu llinyn y gar.

Ac mae un o hyfforddwyr Cymru, Raymond Verheijen, wedi dweud ar ei safle Trydar y bydd datganiad ac yna’r frawddeg hon: “Mae’r amaturiaid di-glem wedi taro eto”.

Ef oedd bygythiad mwya’ Cymru wrth iddyn nhw wynebu Lloegr mewn gêm fawr ddydd Sadwrn yn rowndiau rhagbrofol cystadleuaeth Ewro 2012.

Canmol

Roedd rheolwr Lloegr, Fabio Capello, a rhai o’r chwaraewyr wedi bod yn canmol Bale ac fe fyddai ei golli’n ddyrnod fawr i reolwr Cymru, Gary Speed.

Roedd Gareth Bale wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at yr ornest ac wedi galw ar y cefnogwyr i roi hwb i’r tîm.