Steve Morison
Mae ymosodwr Cymru, Steve Morison wedi dweud nad oedd erioed wedi meddwl y byddai’n chwarae ar y lefel ryngwladol wrth iddo baratoi i wynebu Lloegr dros y Sul.
Mae gyrfa Morison wedi datbygu’n rhyfeddol ers iddo gael ei werthu gan Northampton i Bishop’s Stortford yn 2004.
Ond fe ddangosodd yr ymosodwr ei ddawn gyda’r tîm o’r cynghreiriau is ac yna gyda Stevenage cyn i Millwall ei brynu.
Wrth chwarae i Millwall fe ddenodd ei berfformiadau sylw cyn hyfforddwr Cymru, John Toshack, ac fe wobrwyodd yr ymosodwr gyda’i gap cyntaf.
Mae Morison sy’n wreiddiol o Lundain, yn gymwys i chwarae dros Gymru trwy ei fam-gu Gymreig.
Chwarae’n broffesiynol oedd y nod
“Doeddwn i erioed wedi meddwl chwarae ar y lefel ryngwladol. Yr unig nod oedd chwarae’n broffesiynol,” meddai.
“Pan ddisgynnais allan o’r gynghrair pêl droed- pêl droed rhyngwladol oedd y peth olaf ar fy meddwl.
“Ond mae’r ddwy flynedd olaf wedi bod yn wych, ac fe fyddai sgorio yn erbyn Lloegr yn ffordd ardderchog i orffen y stori”
“Fe ddylai Lloegr fod yn nerfus. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth i ddisgwyl gyda ni. Fe fyddan nhw’n adnabod chwaraewyr fel Gareth Bale, Craig Bellamy, Aaron Ramsey a Joe Ledley, ond fe fyddwn ni’n brawf newydd iddyn nhw.”