Gwefan y Croesgadwyr yn cyhoeddi'r newydd
Mae’r Crusaders wedi arwyddo eu hail chwaraewr newydd mewn 48 awr – chwaraewr rhyngwladol Cymru, Andy Bracek.

Mae cyn chwaraewr rheng ôl St Helens a Warrington yn ymuno ar gytundeb 18 mis, ddiwrnod ar ôl i gyn chwaraewr Leeds a Hull, Jordan Tansey ymuno.

Mae Bracek, sydd wedi chwarae i Barrow yn ddiweddar, yn gwella o anaf i’w ben-glin ar hyn o bryd a does dim disgwyl iddo chwarae am ddau neu dri mis arall.

“Mae Andy yn chwaraewr gwych i ni ei arwyddo. R’yn ni eisoes wedi cydweithio ar lefel Cymru ac mae’n chwaraewr pwerus,” meddai hyfforddwr y tîm cenedlaethol, Iestyn Harris.

“R’yn ni ychydig yn brin yn y rheng ôl ar hyn o bryd. Felly fe fydd Andy yn ychwanegu cryfder i’r pac.

“Mae hefyd yn chwaraewr dawnus am foi mawr ac mae wedi creu argraff yn y ffordd y mae wastad yn barod i weithio’n galed”

Capiau

Mae Bracek wedi chwarae 57 gwaith i St Helens a Warrington yn ogystal ag ennill tri chap dros Gymru.

Fe gafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop yn 2010 cyn i anaf ei atal rhag chwarae.

“Roeddwn ni’n gwybod mae’r Crusaders oedd y clwb iawn i mi ar ôl siarad gydag Iestyn Harris,” meddai yntau.

“Mae Iestyn yn hyfforddwr gwych ac rwy’n edrych ‘mlaen i weithio gydag ef unwaith eto.”