Morgannwg - anniddigrwydd yn arwain at newid
Mae aelodau clwb criced Morgannwg wedi ethol tri aelod newydd i bwyllgor y clwb yn ystod eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Fe gollodd tri o’r pedwar aelod a oedd yn ceisio cael eu hail hethol – arwydd posib o anniddigrwydd am helyntion y clwb tros y gaea’.

Mae Frances Bevan, Brian Frost a David Herbert wedi cael eu dewis yn aelodau newydd yn lle Jeff Bird, David Davies a Brian Shackleton, tra bod Malcolm Price wedi ei ailethol.

Llais i’r anniddig

Fe ddywedodd Frances Bevan ei bod hi wedi cael ei hethol i fod yn llais i’r aelodau sy’n anhapus gyda’r trafferthion pan adawodd hyfforddwr, capten a Llywydd y clwb.

Fe gadarnhaodd y cadeirydd, Paul Russell, ei fod yn bwriadu trosglwyddo’r awenau i’r is-gadeirydd, Nigel Roberts, yn ystod y flwyddyn.

Ar un adeg, roedd Roberts hefyd wedi ymddiswyddo oherwydd y ffordd y cafodd yr hyfforddwr, Matthew Maynard, ei drin.

Dim llywydd am y tro

Fydd Morgannwg yn enwi llywydd newydd  i olynu Peter Walker nes bod y pwyllgor wedi llunio disgrifiad swydd.