Gareth Bale yn barod
Mae Gareth Bale wedi cadarnhau y bydd yn ffit i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd dydd Sadwrn.
Y penwythnos diwetha’, fe chwaraeodd y Cymro ei gêm lawn gyntaf i Tottenham ers dychwelyd o anaf i’w gefn ym mis Ionawr.
Fe fydd y newyddion yn hwb fawr i garfan Gary Speed ac mae Bale wedi gal war i’r dyrfa yng Nghaerdydd helpu’r tîm.
“Ro’n i ychydig yn anystwyth ar ôl chwarae’r 90 munud llawn ddydd Sadwrn. Ond dw i wedi gwella’n dda a dw i’n awr yn paratoi ar gyfer y penwythnos,” meddai.
Rhybudd i Loegr
Mae amddiffynwyr Lloegr, Ashley Cole a Michael Dawson, wedi rhybuddio eu cyd-chwaraewyr am fygythiad Gareth Bale.
Chwaraewr Tottenham fydd un o obeithion mwyaf Cymru yn erbyn y Saeson ar ôl tymor llwyddiannus i’w glwb.
“Mae Bale yn wych. Mae wedi dangos pa mor dda yw e yn ystod y ddau dymor olaf,” meddai Ashley Cole.
“Ar un adeg doedd ganddo ddim hyder doedd e ddim yn chwarae mor gyson â hynny. Ond mae hyn yn dangos mai dim ond hyder sydd ei angen. Mae wedi dangos ei ddoniau ers iddo ddechrau chwarae’n gyson.”
Angen paratoi
Fe ddywedodd Michael Dawson y bydd rhaid i Loegr baratoi’n dda er mwyn atal Bale.
“Mae Gareth wedi chwarae’n ardderchog yn yr Uwch Gynghrair a Chynghrair y Pencampwyr,” meddai.
“Mae wedi gorfod gweithio’n galed iawn ac mae’n haeddu’r clod. Fe fydd rhaid i ni fod wedi paratoi’n dda pan fyddwn ni’n ei wynebu.”