Meri Huws
Mae Cadeirydd Bwrdd yr Iaith, Meri Huws, wedi anfon llythyr at y Gweinidog Llywodraeth Leol yn pryderu am effaith penodi comisiynwyr allanol i redeg Cyngor Môn ar yr iaith Gymraeg ar yr ynys.
Dywedodd Meri Huws bod penodi Rheolwr Gyfarwyddwr di-Gymraeg i arwain y cyngor yn 2009 wedi arwain at “leihad sylweddol yn y defnydd a wnaed o’r Gymraeg gyda sgil effeithiau hynny yn treiddio i weddill y Cyngor”.
Cyhoeddodd Carl Sargeant ddydd Mercher diwethaf y bydd yn diddymu pwerau gweithgor cyngor yr ynys ar ôl arolwg beirniadol arall.
Fe fydd comisiynwyr yn rheoli’r cyngor nes yr etholiadau lleol nesaf o leiaf, meddai.
Ond dywedodd Meri Huws ei bod yn pryderu “y bydd penodi Comisiynwyr di-Gymraeg, ac unrhyw staff atodol a ddaw yn eu sgil, yn tanseilio datblygiad yr iaith ymhellach”.
Yn dilyn penodi Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cyngor yn 2009 “fe welwyd fod yr agenda o weithio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi arafu’n sylweddol. Newidiwyd iaith y cyfarfodydd ar unwaith i’r Saesneg, a chyflogwyd nifer o ymgynghorwyr di-Gymraeg i arwain y broses adfer,” meddai Meri Huws.
“Dengys y profiad hwn sut mae esgeuluso’r elfen ieithyddol wrth gyflwyno newidiadau i strwythur rheoli’r Cyngor wedi effeithio’n andwyol ar allu’r Cyngor i barhau i weinyddu yn y Gymraeg.
“Gofynnwn i chi, felly ystyried beth allai’r sgil effeithiau fod o benodi Comisiynwyr di-gymraeg ar sefyllfa’r iaith fel iaith fyw o fewn Cyngor Sir Ynys Môn.
“Rydym yn awyddus clywed pa gamau y byddwch yn medru eu rhoi yn eu lle i sicrhau mai tyfu fydd y Gymraeg fel iaith sy’n cael ei defnyddio o fewn gweinyddiaeth y Cyngor ac nad ergyd sylweddol i ddyfodol y Gymraeg fydd y datblygiad diweddaraf hwn yn hanes yr ynys.”
‘Cadarnle’
Dywedodd mai mater i Lywodraeth y Cynulliad yw pam y penodwyd y Comisiynwyr, ond na ddylai cynlluniau’r Cyngor i hyrwyddo’r Gymraeg ddioddef yn sgil eu penodi.
“Fel y gwyddoch, mae Ynys Môn yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, gyda dros 60% o’r boblogaeth yn siarad yr iaith; ffigwr sy’n codi cyn uched â 87% mewn ambell i gymuned,” meddai.
“Gyda 50 o ysgolion cynradd a 5 ysgol uwchradd yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog, mae hi’n hanfodol fod y Cyngor yn cynnig arweiniad clir, uchelgeisiol a blaengar i ddatblygu’r iaith ar yr ynys.
“Rydym ni fel Bwrdd wedi bod yn cydweithio â Chyngor Môn ers rhai blynyddoedd bellach ar gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu gweinyddiaeth fewnol, ac rydym yn falch o ddweud i ni weld cynnydd yn y defnydd o’r iaith yn y gweithle.
“Roedd rôl y tîm rheoli yn allweddol i’r cynnydd hwn, wrth iddynt arwain drwy esiampl gan gynnal eu cyfarfodydd a chyflwyno adroddiadau yn y Gymraeg.”