Bradley Manning
Ymgasglodd cannoedd o brotestwyr y tu allan i ganolfan filwrol lle y mae’r milwr Bradley Manning yn cael ei ddal ar gyhuddiad o ddarparu data ar gyfer gwefan Wikileaks.

Teithiodd sawl un o Sir Benfro, lle y cafodd y milwr ei fagu a lle y mae rhywfaint o’i deulu’n byw, draw i dalaith Virginia er mwyn cefnogi’r brotest.

Cafodd tua 35 o bobl eu harestio gan yr heddlu yn ystod y brotest o flaen Marine Corps Base Quantico, ddoe.

Mae’r protestwyr yn anhapus fod Bradley Manning yn cael ei ddal ar ben ei hun yn ei gell drwy’r dydd, ac wedi gorfod cysgu yn noeth am gyfnodau yn y gorffennol.

Mae’r milwr yn wynebu dwsinau o gyhuddiadau, gan gynnwys rhoi cymorth i’r gelyn, ac mae’n bosib y gallai wynebu’r gosb eithaf neu oes yn y carchar.

Dywedodd David House, ffrind sydd wedi ymweld â Manning tua phymtheg o weithiau ers mis Medi, wrth y protestwyr fod y milwr yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth.

“Pethau fel hyn sydd yn rhoi gobaith i Bradley”, meddai David House. “Mae o wrth ei fodd fod pobol y tu allan yn ei gefnogi.”

Dywedodd swyddog o heddlu’r sir mewn datganiad fod tua 35 o’r protestwyr wedi eu harestio am ymgasglu yn anghyfreithlon ac ymyrryd ar drafnidiaeth y fyddin. Cafodd un gwrthdystiwr ei arestio am ymosod ar swyddog.