Quetta, Pacistan
Mae achubwyr wedi bod yn defnyddio rhofiau a’u dwylo noeth er mwyn ceisio cyrraedd glowyr sydd wedi eu claddu yn dilyn ffrwydrad nwy yn ne-orllewin Pacistan.

Mae’r eirch pren eisoes wedi eu gosod mewn rhes ar gyrion y pwll glo wrth iddyn nhw ddisgwyl i 52 o gyrff gael eu cludo i’r wyneb.

Roedd mwy na 200 o bobol wedi mynd i’r pwll glo gan obeithio achub y dynion ond hyd yma dim ond 27 o gyrff sydd wedi dod i’r golwg.

“Dydyn ni ddim wedi tyllu a chwilio drwy rhai rhannau o’r pwll glo eto, ond does dim gobaith y bydd unrhyw un yn dod allan yn fyw,” meddai archwilydd pyllau glo’r llywodraeth, Iftikhar Ahmed.

Dywedodd fod y contractwyr oedd yn gweithio ar y pwll glo sy’n eiddo i Gwmni Datblygu Mwynau Pacistan wedi eu rhybuddio pythefnos yn ôl fod nwy methan yno.

Mae saith o’r meirw sydd wedi eu tynnu o’r rwbel hyd yma yn dod o un teulu o Ddyffryn Swat yng ngogledd-orllewin Pacistan.

Dywedodd Iftikhar Ahmed bod deg o’r cyrff wedi eu llosgi gan y ffrwydrad, ond bod y lleill wedi eu lladd gan falurion yn disgyn ar eu pennau, neu wedi cael eu mygu.

Mae’r pwll glo yn Sorange yn rhanbarth Baluchistan, 25 milltir i’r dwyrain o’r brifddinas, Quetta.