Alan Stivell (o wefan Wikipedia)
Fe fydd y telynor enwog o Lydaw, Alan Stivell, yn perfformio yng Ngŵyl Delynau Caernarfon eleni, cafodd ei gyhoeddi heddiw.
Roedd Alan Stivell yn gyfrifol am ddod â sŵn y delyn Geltaidd i sylw rhyngwladol yn ystod y saithdegau ac ef fydd yn cloi Gŵyl Delynau Caernarfon 18 – 19 o Ebrill eleni.
“Mae hyn yn bluen go iawn yn het yr ŵyl,” meddai Elinor Bennett, Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl.
“Fe dorrodd Alan Stivell gŵys newydd yn hanes y delyn efo’i albwm ac fe fydd yn anrhydedd i’r telynorion fydd yn yr Ŵyl gael y cyfle i’w glywed yn perfformio ac yn sgwrsio.”
Eisoes, mae’n 40 mlynedd ers i’r telynor ryddhau ei albwm ‘Renaissance of the Celtic Harp’.
“Mae yna gryn ddiddordeb yn ei gyngerdd ac mae’r tocynnau eisoes ar werth. Rydw i’n falchach fyth bod Stivell yng Nghymru pan ydan ni’n dathlu tri chan mlwyddiant geni un o arwyr gwerin Cymru sef y telynor Dafydd Owen, neu Dafydd y Garreg Wen,” meddai Elinor Bennett.
‘Cennin Pedr a chlefyd Alzheimer’
Bydd cwmni Alzeim o Aberhonddu yn noddi’r digwyddiad trwy anfon cennin Pedr i addurno’r llwyfan a’u gwerthu ar ddiwedd y noson.
Mae Alzeim yn defnyddio’r blodau i gynhyrchu cyffur newydd i drin y clefyd Alzheimer.
Bydd yr elw o werthu’r blodau yn cael ei rannu rhwng Cyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias ac elusen Alzheimer yn lleol.