Fe fu farw’r awdur a’r colofnydd Hafina Clwyd ar ôl brwydr â chanser.
Roedd Hafina Clwyd wedi ysgrifennu dros 10 o lyfrau yn ogystal â golygu cylchgrawn Y Faner. Roedd ganddi hefyd golofn ym mhapur y Western Mail ac yn Y Cymro.
Fe ddywedodd Myrddin ap Dafydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch wrth Golwg360 ei bod yn “chwith garw iawn” ganddo glywed y newyddion.
Roedd Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi cyfrolau ‘Prynu Lein Ddillad’ a ‘Rhywbeth Bob Dydd’ gan Hafina Clwyd.
Bythefnos yn ôl, roedd y wasg wedi derbyn ei chyfrol ddiwethaf “dan amgylchiadau anodd,” meddai Myrddin ap Dafydd.
“Roedd dedlein a chadw addewid yn hynod bwysig iddi. Roedd ganddi agwedd iach iawn at gadw amserlen ac roedd yn fanwl a thrylwyr ei gwaith. Roedd rhywun yn edmygu ei dewrder drwy bopeth.
“Roedd ganddi ryw rym creadigol eithriadol ac roedd hi’n cael mynegiant drwy wneud pethau.”
Yn ogystal â’i gwaith fel awdures – roedd hi hefyd yn aelod “egnïol” o Gyngor Tref Rhuthun cyn ymddiswyddo gwta fis yn ôl ac wedi bod yn Faer y dref yn y gorffennol.
Fe wnaeth y Cynghorydd Menna Eluned Jones, Maer presennol y dref ei disgrifio wrth Golwg360 fel “dynes y bobl”.
“Dw i’n meddwl ei bod hi wedi rhannu ei hun rhwng pobl a rhwng gwahanol gymdeithasau,” meddai’r Cynghorydd cyn dweud ei bod yn ysgrifennu dyddiadur yng nghylchgrawn chwarterol Merched y Wawr a “phawb yn awyddus i ddarllen ei gwaith”.
“Roedd hi’n berson egnïol. Roeddwn i yn ei thŷ hi tua 10 diwrnod yn ôl ac roedd hi’n benderfynol o orffen ei chyfrol ddiwethaf,” meddai cyn sôn bod Hafina Clwyd wedi dangos y llun ohoni a fyddai’n mynd ar gefn ei chyfrol ddiwethaf.
Anrhydedd
Cafodd ei gwneud yn Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn 2005.
“Roedd Hafina Clwyd yn athrawes yn Llundain am sawl blwyddyn, ond fel newyddiadurwraig a golygydd (yn y Gymraeg a’r Saesneg) y bu’n rhagori ac y daeth yn adnabyddus,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Bangor.
“Roedd yn anrhydedd i Brifysgol Bangor fod yn gysylltiedig â hi.
“A hithau’n gyn-fyfyrwraig o’r Coleg Normal, fe fu’n ymweld â’r Brifysgol o dro i dro. Rydym wedi’n tristáu i glywed am ei marwolaeth, ac yn cydymdeimlo’n ddiffuant â’r teulu.”