Mae dyn 27 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ddyn sydd bellach mewn cyflwr bregus yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Daeth yr heddlu o hyd i’r dyn, oedd yn dioddef o anafiadau difrifol, yn dilyn tân o flaen Gwesty Gateway Express, Casnewydd.
Cafodd y dioddefwr ei losgi’n ddifrifol yn y tân, ac yn dilyn archwiliad meddygol dywedodd yr heddlu eu bod nhw hefyd yn credu bod rhywun wedi ymosod arno.
Mae dyn o Gasnewydd wedi ei arestio ac yn cael ei gwestiynu gan yr heddlu.
“Mae’r ymchwiliad yn parhau i beth achosodd y tân ac a oedd yn fwriadol ai peidio,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Serch hynny mae bellach wedi ei gadarnhau, yn dilyn archwiliad meddygol, fod y dyn wedi dioddef o anafiadau eraill ac mae swyddogion bellach yn credu fod rhywun wedi ymosod arno.
“Does dim cadarnhau eto pryd a lle digwyddodd yr ymosodiad ac mae swyddogion yn parhau i ymchwilio yn ardal Ffordd Cas-gwent.”
Mae’r heddlu wedi galw am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn ardal Ffordd Cas-gwent rhwng 7pm a 10.15pm ddydd Mercher, 9 Mawrth.
Dylid cysylltu â nhw ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555111.