Mae tsunami 13 troedfedd wedi taro Japan gan achosi difrod mawr ar hyd arfordir y gogledd-ddwyrain.
Daw’r tsunami yn dilyn daeargryn 8.9 ar y raddfa Richter yn y môr oddi ar yr arfordir, am 2.46pm amser Japan.
Mae yna eisoes adroddiadau bod y tsunami wedi achosi difrod milltiroedd i mewn i arfordir Japan, gan ddinistrio tai, cychod a cheir. Does dim awgrym faint sydd wedi eu lladd eto.
Mae yna hefyd bryder am wledydd eraill ar hyd y Môr Tawel, wrth i arbenigwyr rybuddio y bydd y don yn cyrraedd mor bell â Chile.
Mae yna hefyd bryder am Hawaii, Rwsia, Taiwan, y Pilipinas, Seland Newydd, Awstralia, Mecsico ac Indonesia. Mae disgwyl i’r don gyrraedd Hawaii am 2.59am amser lleol (12.59pm amser Cymru).
Dywedodd y Groes Goch eu bod nhw’n pryderu yn fawr am rai o ynysoedd y Môr Tawel, sydd heb dir uchel i ffoi iddyn nhw.
Tokyo
Cafodd o leiaf un person ei ladd ac mae yna adroddiad am nifer o anafiadau ym mhrifddinas Japan, Tokyo, sydd 240 milltir i ffwrdd o ganolbwynt y daeargryn.
Yn ôl adroddiadau mae sawl ôl-ddaeargryn eisoes wedi ysgwyd y brifddinas dros yr oriau diwethaf. Roedd y mwyaf pwerus wedi cyrraedd 7.1 ar y raddfa Richter.
Roedd teledu’r wlad yn dangos afon fwdlyd yn lledu dros dir amaethyddol ger dinas Sendai, gan sgubo malurion a cheir i ffwrdd.
“Mae hwn yn ddaeargryn anghyffredin o fawr, ac fe allai maint y difrod gynyddu bob munud,” meddai Junichi Sawada, swyddog yn Asiantaeth Gwasanaethau Brys Japan.
Llygad dyst
Dywedodd Osamu Akiya, 46, oedd yn gweithio mewn swyddfa yn Tokyo pan darodd y daeargryn, nad oedd erioed wedi teimlo unrhyw beth tebyg.
“Rydw i wedi byw drwy sawl daeargryn, ond dydw i erioed wedi teimlo unrhyw beth tebyg,” meddai. “Dydw i ddim yn gwybod a fydda i’n gallu’n mynd adref heno.”
Dywedodd Prif Weinidog Japan fod y daeargryn wedi achosi “difrod anferth”, a bod milwyr a’r gwasanaethau brys eisoes wedi eu hanfon i ganol y dinistr.