Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae gwrthwynebwyr pennaf y Blaid Lafur yn Etholiadau’r Cynulliad wedi dweud eu bod nhw’n ffyddiog, er gwaethaf pôl piniwn sy’n awgrymu eu bod nhw’n bell ar ei hol hi.

Mae pôl piniwn YouGov ryddhawyd heddiw yn awgrymu y gallai plaid y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ffurfio mwyafrif yn y Cynulliad ar ôl 5 Mai.

Roedd Plaid Cymru yn y trydydd safle yn y pôl piniwn, y tu ôl i’r Ceidwadwyr. Serch hynny dywedodd y blaid eu bod nhw’n ffyddiog y bydd eu cefnogaeth yn cynyddu wrth i ddydd yr etholiad agosáu.

“Yn wahanol i etholiadau San Steffan, oedd â chyd-destun Prydeinig, mae’r etholiad yma yn ymwneud â Chymru yn unig,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

“Yn y cyd-destun hwnnw fe fyddwn ni’n gallu cyrraedd pleidleisiwr ar draws Cymru â neges sy’n unigryw i ni – mai dim ond Plaid Cymru fydd yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar gael y gorau i Gymru.

“Fe fydd ein hymgyrch ni yn canolbwyntio ar barhau â’r gwaith o gynnal Cymru a gwella ein system addysg ac economaidd wrth baratoi ar gyfer y blynyddoedd heriol sydd o’n blaenau ni.”

Ymateb y Ceidwadwyr

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, ei fod eisiau adeiladu ar boblogrwydd ei blaid yng Nghymru.

Yn ôl y pôl piniwn mae’r Ceidwadwyr wedi llamu dros Blaid Cymru i’r ail safle.

“Mae’r pôl piniwn yn cadarnhau mai ni yw’r her fwyaf i’r Blaid Lafur yng Nghymru,” meddai.

“Ar ôl 12 mlynedd o lywodraeth Llafur yn y Cynulliad, Cymru yw’r rhan fwyaf tlawd o’r Deyrnas Unedig, mae safonau addysg yn syrthio ac mae cleifion yn disgwyl yn hirach am driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Wrth ymgyrchu ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad fe fyddwn ni’n cynnig dewis amgen clir i’r Blaid Lafur, ar ôl degawdau o fethiant a chyfleoedd wedi eu methu.”