Mae arbenigwr etholiadol yn darogan y gallai’r Blair Lafur ennill chwe sedd ychwanegol ar 5 Mai os yw pôl piniwn a ryddhawyd gan YouGov/ITV Cymru heddiw yn agos ati.
Mae Dr Denis Balsom yn credu y bydd gan y Blaid Lafur fwyafrif yn y Senedd, ar ôl ennill 32 sedd yn Etholiadau’r Cynulliad.
Mae’n rhagweld y bydd y Ceidwadwyr yn ennill 13 sedd, Plaid Cymru yn ennill 11, a’r Dems Rhydd ar dri yn unig.
“Dw i’n rhagweld y bydd y Blaid Lafur yn cynyddu nifer eu haelodau Cynulliad gyda chwe sedd, tra bod Plaid yn colli pedwar,” meddai.
“Byddai angen gogwydd mawr tuag at Lafur, ond pwy a wyr beth fydd yn digwydd ar ddydd yr etholiad.”
Mae Denis Balsom, sy’n olygydd y Wales Yearbook, hefyd yn rhagweld y gallai’r Blaid Werdd gipio sedd eleni.
Dyna fyddai sedd gyntaf y blaid yn y Cynulliad – flwyddyn yn union ar ôl i Caroline Lucas gael ei hethol yn Aelod Seneddol cyntaf y Blaid Werdd.
Dywedodd Caroline Lucas fod y pôl piniwn yn “newyddion da i’r Blaid Werdd yng Nghymru”.
“Fe fyddai llwyddiant yn Etholiadau’r Cynulliad yn rhan o’r gadwyn o lwyddiannau. Fe fyddai Aelod Cynulliad o’r Blaid Werdd yn ymuno â chyd-weithwyr Gwyrdd yng Ngogledd Iwerddon, Llundain, yr Alban, a’r Senedd Ewropeaidd.”
Ffigyrau Pôl YouGov/ITV Cymru
Ffigyrau YouGov/ITV Cymru ar gyfer 8 Mawrth yn dagnos bwriad pleidleisio etholiad y Cynulliad (a’r newid ers etholiad Cynulliad 2007):
ETHOLAETHAU:
Llafur: 48% (+16)
Ceidwadwyr: 20% (-2)
Plaid Cymru: 19% (-3)
Democratiaid Rhyddfrydol: 7% (-8)
Eraill: 7% (lawr 1)
RHANBARTHAU:
Llafur: 45% (+15)
Ceidwadwyr: 20% (-2)
Plaid Cymru: 18% (-3)
Democratiaid Rhyddfrydol: 5% (-7)
UKIP: 5% (-1)
Plaid Werdd: 4% (dim newid)
Eraill: 4% (-6)
Cyfanswm y seddi petai ffigyrau YouGov/ITV yn adlewyrchu canlyniad 5 Mai (a’r newid ers etholiad Cynulliad 2007):
Llafur: 32 (+6)
Ceidwadwyr: 13 (+1)
Plaid Cymru: 11 (-4)
Democratiaid Rhyddfrydol: 3 (-3)
Eraill: 1 (Sedd annibynnol Trish Law yn mynd i’r Blaid Werdd)