Fe fu farw dynes 60 oed a’i chi mewn tân yn Abertawe ddoe.
Cafodd criwiau o wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i Stryd Robert yn Manselton, tua 3.40pm.
Defnyddiodd swyddogion tân offer anadlu er mwyn mynd i mewn i’r adeilad a dod o hyd i’r ddynes.
Maen nhw’n ymchwilio er mwyn cael gwybod beth achosodd y tân ar hyn o bryd.