Y cyn-newyddiadurwr radio, Dyfan Tudur, sydd wedi’i benodi dros dro i baratoi’r ffordd ar gyfer rhoi gwasanaeth newydd Radio Cymru 2 ar yr awyr.

Dyfan Tudur ydi Trefnydd Darlledu Radio Cymru, yn gyfrifol am swn yr orsaf, am y cyhoeddiadau rhwng rhaglenni ac am y clipiau sy’n hyrwyddo rhaglenni.

Mae llefarydd ar ran Radio Cymru wedi cadarnhau ei fod “wedi ei ryddhau” o’r swydd honno er mwyn datblygu’r systemau technegol ar gyfer y gwasanaeth newydd. Ond maen nhw’n methu dweud ar hyn o bryd pryd fydd yr ail wasanaeth i’w glywed; faint fydd y gyllideb na phwy fydd y cyflwynwyr a’r cyfranwyr.

Yn ol y llefarydd ar ran Radio Cymru, mae hi’n “rhy gynnar” i ddatgelu’r wybodaeth honno, ond fe fydd “cyhoeddiad maes o law”.

Beth ydi Radio Cymru 2?

Daeth cadarnhad o’r gwasanaeth newydd ym mis Mehefin eleni.

Bydd rhaglenni’n cael eu darlledu rhwng 7 o’r gloch a 10 o’r gloch y bore, ac mae’n dilyn arbrawf Radio Cymru Mwy yn gynharach eleni.

Bydd Radio Cymru 2 ar gael ar radio a theledu digidol ac iPlayer y Gorfforaeth.

Bydd yr arlwy’n cynnwys rhaglenni cerddoriaeth ac adloniant, ond mae’r BBC wedi pwysleisio na fydd y gwasanaeth newydd yn effeithio ar ddarpariaeth rhaglenni newyddion Radio Cymru.

Dathlu’r deugain

Mae Radio Cymru’n dathlu 40 mlynedd eleni.

Pan ddaeth y cyhoeddiad am Radio Cymru 2 dros yr haf, dywedodd Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, Betsan Powys fod “hwn yn gyhoeddiad gwirioneddol hanesyddol – yn un o’r pwysicaf ers sefydlu Radio Cymru yn 1977″.