Mae Jamie Oliver wedi talu teyrnged i Patricia Llewellyn, cynhyrchydd ei raglenni 'Naked Chef'
Bu farw’r cynhyrchydd o Gymru oedd yn gyfrifol am roi’r cogyddion Jamie Oliver a Gordon Ramsay ar deledu.

Roedd Patricia Llewellyn yn 55 oed ac wedi’i magu yn nhref Castellnewydd Emlyn yn Sir Gaerfyrddin. Roedd hi wedi bod yn dioddef o ganser.

Hi oedd yn gyfrifol am greu’r rhaglen The Naked Chef ar ôl gweld Jamie Oliver yn coginio, ac roedd hi’n gyfrifol am gynhyrchu holl raglenni Gordon Ramsay, y cogydd sy’n enwog am ei regfeydd a’i dymer wyllt.

Mae Jamie Oliver wedi rhoi teyrnged i Patricia Llewellyn trwy son am ei gallu i ddod o hyd i dalent a defnyddio “llwyth o greadigrwydd a brwdfrydedd” i hybu’r dalent honno.

Gyrfa

Ymunodd Patricia Llewellyn â chwmni cynhyrchu Optomen yn 1994, ac aeth ymlaen i fod yn rheolwr-gyfarwyddwr ar y cwmni rhwng 2005 a 2016.

Hi hefyd oedd cyd-sylfaenydd y cwmni One Potato Two Potato gyda Gordon Ramsay.

Cafodd y ddau gwmni eu gwerthu am gyfanswm o £40m yn 2010.