Mae’r gyfradd diweithdra yng Nghymru wedi gostwng yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau yn dangos bod 4% o boblogaeth Cymru yn ddi-waith rhwng Mehefin ac Awst, o gymharu â 4.3% ledled Prydain.

Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru rhwng Mehefin ac Awst eleni, ar ei lefel isaf erioed am y cyfnod amser hwnnw. 

Cwympodd y nifer o bobol oedd yn ddi-waith yng Nghymru gan 11,000 i 60,000 o gymharu â’r tri mis blaenorol.

Y rhanbarth Prydeinig a welodd y cwymp fwyaf yn y gyfradd diweithdra o gymharu â’r tri mis blaenorol oedd Gorllewin Canolbarth Lloegr â chwymp 0.7%.

Cymru a Llundain oedd yn gydradd ail gyda chwymp o 0.6%.