William Williams Pantycelyn
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd i ddathlu tri chan mlwyddiant geni emynydd enwocaf Cymru, William Williams Pantycelyn.

Bydd y dathliad yn cael ei chynnal yn adeilad y Senedd ddydd Mercher nesaf; ac mi fydd perfformiadau corawl, darlith a dadorchuddiad o waith celf, ymysg y digwyddiadau ar y rhaglen.

Nawdd y digwyddiad yw Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, ac mae wedi ei gefnogi gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

“Mae’n briodol ein bod ni fel Senedd yn cydnabod cyfraniad William Williams Pantycelyn i fywyd y genedl,” meddai Elin Jones.

“Roedd y gŵr arbennig hwn nid yn unig yn un o brif arweinwyr Diwygiad Efengylaidd y ddeunawfed ganrif ond hefyd yn fardd, emynydd a llenor digyffelyb sy’n haeddu llwyfan cenedlaethol.”