Mae’n amlwg nad ydy Cyngor Caerdydd “efo’r cynlluniau i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg”.
Dyna farn yr ymgyrchydd iaith, Sandy Clubb fu’n annerch rali yn y brifddinas heddiw.
Daw ei sylwadau wrth golwg360 ar ôl y rali lle’r oedd ymgyrchwyr yn dadlau y gallai diffyg ymroddiad cynghorau i ehangu addysg Gymraeg danseilio nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd Sandy Clubb fod ychydig dros gant o bobol yn y rali yn Yr Ais, lle’r oedd hi, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Heledd Gwyndaf a Phrif Weithredwr CBAC, Gareth Pierce yn siarad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob awdurdod lleol newid eu cynlluniau addysg Gymraeg oherwydd nad ydyn nhw’n ddigonol, a chynhaliodd y cyn-Aelod Cynulliad, Aled Roberts adolygiad brys o’r sefyllfa ar eu rhan.
Yn ôl yr ymchwil, dim ond 15% o blant saith oed oedd yn derbyn addysg Gymraeg yn y brifddinas y llynedd – 22% oedd y ffigwr drwy Gymru gyfan.
Bydd rhaid i Gaerdydd ddyblu’r ddarpariaeth i 33% erbyn 2025, meddai’r ymchwil, a chynyddu i 43% erbyn 2030 ac i 71% erbyn 2040.
“Bendigedig ym Mhenarth”
Siaradodd Sandy Clubb fel rhiant yn ystod y rali, gan dynnu ar ei phrofiadau ei hun o fod yn rhiant sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd wedi dewis addysg Gymraeg i’w phlant.
Dywedodd hi wrth golwg360: “O’n i’n sôn, o ’mhrofiad i’n dysgu Cymraeg, pa mor bwysig yw e i roi cyfle i blant gael dysgu Cymraeg pan maen nhw’n ifanc a chael eu haddysg drwy’r Gymraeg yn hytrach na chael gwersi’n oedolion.
“Dwi’n perthyn i’r genhedlaeth sy’n dweud “I grew up here but I can’t speak Welsh”.
Yn ôl Sandy Clubb, does dim digon o lefydd ar gael mewn ysgolion Cymraeg yn y Fro, lle mae 30% o rieni’n dymuno i’w plant gael addysg Gymraeg. Dim ond 14% o lefydd sydd mewn ysgolion Cymraeg.
‘Angen gwneud ymdrech ychwanegol’
Serch hynny, a hithau’n rhiant yn Ysgol Pen y Garth, mae hi’n dweud bod addysg ei phlant ym Mhenarth yn “fendigedig”.
“Mae’n rhaid i ni deithio ymhellach, dyna’r unig beth. Rhaid i ni deithio yr holl ffordd ar draws Penarth i’r ysgol a mynd heibio pump o ysgolion Saesneg i gael addysg Gymraeg.
“Felly rhan o’r profiad yw gwneud ymdrech ychwanegol a wynebu anghyfleustra i dderbyn addysg Gymraeg.”
“Ond dw i wedi’i weld e’n brofiad positif i fod yn rhan o’r gymuned Gymraeg drwy’r ysgol. Mae gan blant Cymru’r hawl i gael addysg Gymraeg a dysgu’r iaith Gymraeg.”